Cynllun Tro Da Seiriol
Os ydych yn byw yn Ward Seiriol - Biwmares, Llandegfan, Llanddona, Llanfaes, Llangoed, Llansadwrn a Phenmon - efallai y bydd y Cynllun Troi Da yn gallu eich helpu.
Wedi'i sefydlu gan Gynghrair Seiriol mae'r gwasanaethau a gynigir gan y Cynllun yn cael eu darparu gan wirfoddolwyr ac yn cynnig cymorth i unrhyw berson sy'n byw yn Ward Seiriol a allai, oherwydd salwch, analluedd neu ryw angen arall, elwa o'r cymorth sydd ar gael.
Mae amcanion y Cynllun yn cynnwys mynd i'r afael ag unigrwydd a hyrwyddo lles ac annibyniaeth.
​
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:-
Darparu cludiant fel mynd â chleientiaid i'w meddygfa, ysbyty neu apwyntiadau gofal iechyd eraill a chasglu presgripsiwn o fferyllfeydd lleol
Cefnogi pobl i gael mynediad i ddigwyddiadau cymdeithasol cymunedol, dosbarthiadau ymarfer corff, clybiau ac ati
Cefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau digidol fel defnyddio'r rhyngrwyd
​
Os ydych chi'n teimlo y gallai'r Cynllun fod o gymorth i chi, ffoniwch
01248 305 014
9yb-5yp Llun-Gwener
Byddwn yn trefnu ymweliad cartref i drafod eich anghenion.
Os hoffech ymuno â'r tîm o wirfoddolwyr mae nifer o feysydd
Gallwch helpu gyda hyn, ffoniwch ni!